Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru.
Dyddiad i’r dyddiadur: 17 i 23 Hydref 2022
Mae’r ymgyrch yn dathlu llwyddiannau dysgwyr a darpariaeth addysg oedolion ar draws Cymru, gan ysbrydoli miloedd o oedolion bob blwyddyn i gymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd dysgu tra’n cynyddu ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Wythnos Addysg Oedolion - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)