BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Addysg Oedolion – Gronfa Arloesedd

Mae cronfa Newid dy Stori ar gael ar gyfer darparwyr addysg oedolion yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgaredd dysgu ar-lein a/neu wyneb yn wyneb ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n dathlu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu ar gyfer pawb.

Cynhelir yr ymgyrch rhwng 18 i 24 Medi 2023, gyda gweithgaredd hyrwyddo ar hyd y mis.

Mae’r ymgyrch yn rhoi ffocws i hyrwyddo cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol a dathlu dysgu gydol oes. 

Mae’r gronfa hon yn cynnig cymorth i ddarparwyr addysg oedolion í gyflwyno gweithgaredd maes, hyrwyddo neu sesiynau blasu ar-lein ar gyfer wythnos yr ymgyrch ac ar hyd fis Medi 2023.

Mae grantiau o hyd at £750 ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru sy’n darparu dysgu gydol oes. Bwriedir y gronfa grant i gefnogi creu sesiynau blasu, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd maes, dosbarthiadau meistr a llais dysgwyr ac yn rhad ac am ddim, a datblygu cynnwys y gellir ei addasu i amgylchedd ar-lein. Efallai y bydd gennych hefyd ddiddordeb mewn cyflwyno dyddiau agored ar-lein/wyneb i wyneb – dylai eu ffocws fod ar ddysgu ar gyfer oedolion. 

Ar gyfer Cronfa Arloesedd eleni, bydd dyddiad cau treigl hyd at ddiwedd mis Awst. Gofynnwn i chi cyflwyno eich cais cyn gynted ag y medrwch, ac yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cynnig erbyn dydd Llun 10 Gorffennaf 2023 os yn bosibl i roi digon o amser i chi eich hunan i gynllunio eich rhaglen gweithgaredd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gronfa Arloesedd - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.