Cynhelir Wythnos Ailgylchu rhwng 20 a 26 Medi 2021, a dyma’r ymgyrch ailgylchu flynyddol genedlaethol fwyaf, nawr yn ei ddeunawfed flwyddyn!
Mae gan ailgylchu rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Defnyddir 95% yn llai o ynni i wneud cynhyrchion o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu na defnyddio deunyddiau crai. Mae’n rhywbeth syml y gall pawb ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha yn cefnogi thema Wythnos Ailgylchu eleni i fynd ‘Gam Ymhellach’ a dod at ein gilydd i ailgylchu mwy o’r pethau iawn yn amlach i ddiogelu’r amgylchedd a sicrhau mai Cymru yw’r gorau yn y byd am ailgylchu.
Cofiwch rannu, hoffi neu aildrydar y negeseuon Wythnos Ailgylchu ar:
- Facebook – CymruynAilgylchu
- Twitter – @CymruAillgylchu
- Instagram – walesrecycles
- #WythnosAilgylchu #ByddWychAilgylcha
Am ragor o wybodaeth, ewch i Cymru yn Ailgylchu.