Cynhelir Wythnos Ailgylchu rhwng 17 a 23 Hydref 2022. Thema eleni yw 'Let's Get Real' a bydd yn herio canfyddiadau a mythau ynghylch ailgylchu, a thargedu halogiad i wella ymddygiadau ailgylchu.
Dyma’r un wythnos yn y flwyddyn lle mae manwerthwyr, brandiau, cwmnïau rheoli gwastraff, cymdeithasau masnach, llywodraethau a'r cyfryngau yn dod at ei gilydd i gyflawni un nod: ysgogi'r cyhoedd i ailgylchu mwy o'r pethau cywir, yn amlach.
Mae'n beth syml y gall pawb ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: