Cynhelir Wythnos Bwyd a Ffermio Cymreig, sy’n cael ei threfnu gan NFU Cymru, rhwng 17 a 21 Mehefin 2024.
Bydd yr wythnos o weithgareddau, sy’n cael ei chynnal ledled Cymru, yn hyrwyddo popeth sy’n wych am fwyd ac amaeth yng Nghymru.
Mae ffermwyr Cymru yn cael eu hannog i droi at Facebook, Instagram a Twitter i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermio i Gymru a’i chymunedau, gan ddefnyddio’r hashnodau #WythnosFfermioCymreig a #WelshFarmingWeek a thagio NFU Cymru yn eu negeseuon.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: NFU Cymru’s Celebration of Welsh Food & Farming Week to champion Welsh agriculture – NFU Cymru (nfu-cymru.org.uk)
Cyswllt Ffermio - eich helpu chi i yrru eich busnes yn ei flaen.
Mae ein rhaglen ddatblygedig yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr. Mae llawer o’r gwasanaethau wedi eu hariannu yn llawn, tra bod eraill yn cael eu hariannu hyd at 80%.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: NFU Cymru – NFU Cymru (nfu-cymru.org.uk)