Hoffech chi gychwyn eich busnes eich hun, meithrin gyrfa lawrydd neu sefydlu menter gymdeithasol? Efallai eich bod eisoes ar waith, ond yn chwilio am ffyrdd o wella neu dyfu?
Cynhelir Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf, sy'n gwrs cychwyn busnes ar-lein o fri, rhwng 20 ac 24 Mehefin 2022.
Cyflwynir ein cwrs ar-lein 5 diwrnod gan rai o’r entrepreneuriaid a’r arbenigwyr mwyaf disglair yng Nghymru, a bydd yn eich helpu i feithrin, datblygu a thyfu eich busnes. Gyda chyfuniad o weithdai rhyngweithiol, trafodaethau panel a sesiynau holi ac ateb gan gynnwys popeth o ymchwil a marchnata i lif arian a chyllid, byddwn yn trafod yr elfennau allweddol sydd eu hangen arnoch i ddechrau busnes, gyrfa lawrydd neu fenter gymdeithasol lwyddiannus.
Byddwch yn datblygu cynllun gweithredu ac yn cael cefnogaeth fentora. Yna, ar ôl y cwrs, bydd ystod o ganllawiau, fideos a sgyrsiau cryno ar gael i chi ynglŷn â chychwyn busnes i’ch helpu i ddod â'ch syniadau yn fyw.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’r rhai sy’n astudio neu sydd wedi astudio mewn coleg, prifysgol neu chweched dosbarth yng Nghymru a chaiff ei ffrydio’n fyw yn uniongyrchol atoch yng nghysur eich cartref eich hun.
Fel rhan o Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru, mae’r digwyddiad hwn hefyd yn agored i rai dan 25 oed yng Nghymru nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
A mae’r cwbl yn rhad ac am ddim!
Cewch fwy o wybodaeth ar y wefan Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf 2022 — Summer Startup Week a gellir cofrestru ar y dudalen Eventbrite Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf 2022 // Summer Start-up Week 2022 Registration, Mon 20 Jun 2022 at 10:25 | Eventbrite