BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Cyflog Byw 2023

Happy Professional Worker Wearing Safety Vest and Hard Hat Smiling with Crossed Arms on Camera.

Cynhelir wythnos cyflog byw rhwng 6 Tachwedd a 12 Tachwedd 2023 a dyma ddathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU.

Y Cyflog Byw go iawn yw'r unig gyfradd gyflog yn y DU sy'n cael ei thalu'n wirfoddol gan dros 14,000 o fusnesau yn y DU sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy'n bodloni anghenion bob dydd - fel y siopa wythnosol, neu daith annisgwyl i'r deintydd.

Beth sy'n digwydd yn wythnos cyflog byw?

  • Digwyddiadau ar hyd a lled y wlad 
  • Cyflogwyr yn chwifio'r faner ac yn arddangos y logo gyda balchder
  • Codi ymwybyddiaeth o'r Cyflog Byw yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol

Beth yw manteision busnes talu cyflog byw go iawn?

  • Mae 87% o bobl yn dweud ei fod wedi gwella enw da'r busnes
  • Mae 66% o bobl yn dweud ei fod wedi helpu i wahaniaethu eu hunain oddi wrth eraill yn eu diwydiant

Dewch i weld sut gall eich busnes gymryd rhan drwy fynd i wefan Living Wage Week | Living Wage Foundation.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Cyflog Byw Cymru – Ar gyfer gwir gostau byw Living Wage Wales – For the real cost of living (cyflogbyw.cymru)

Beth am ymweld â thudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i ddarganfod sut y gall bod yn fusnes cyfrifol fod o fudd i'ch staff a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.