BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Cyflog Byw 2024

man fixing bikes in shop

Cynhelir wythnos cyflog byw rhwng 4 Tachwedd a 10 Tachwedd 2024 a dyma ddathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU.

Y Cyflog Byw go iawn yw'r unig gyfradd gyflog yn y DU sy'n cael ei thalu'n wirfoddol gan dros 15,000 o fusnesau yn y DU sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy'n bodloni anghenion bob dydd – fel y siopa wythnosol, neu daith annisgwyl i'r deintydd.

Beth sy'n digwydd yn wythnos cyflog byw?

  • Digwyddiadau ar hyd a lled y wlad 
  • Cyflogwyr yn chwifio'r faner ac yn arddangos y logo gyda balchder
  • Codi ymwybyddiaeth o'r Cyflog Byw yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol

Beth yw manteision busnes talu cyflog byw go iawn?

  • Mae 87% o bobl yn dweud ei fod wedi gwella enw da'r busnes
  • Mae 66% o bobl yn dweud ei fod wedi helpu i wahaniaethu eu hunain oddi wrth eraill yn eu diwydiant

Dewch i weld sut gall eich busnes gymryd rhan drwy fynd i wefan Living Wage Week | Living Wage Foundation.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Cyflog Byw Cymru – Ar gyfer gwir gostau byw Cyflog Byw i Gymru.  

Beth am ymweld â thudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i ddarganfod sut y gall bod yn fusnes cyfrifol fod o fudd i'ch staff a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.