Cynhelir Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd rhwng 2 Ebrill ac 8 Ebrill 2024.
Mae pobl awtistig yn wynebu gwahaniaethu a rhwystrau ledled pob sector o gymdeithas – yn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol, mewn addysg, mewn cyflogaeth, ac ym mhob man arall.
Mae dros 700,000 o bobl awtistig yn y DU, ond mae llawer ohonynt yn cael trafferth dod o hyd i wasanaethau a busnesau sy’n deall eu hanghenion.
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i gael gwared ar y rhwystrau y mae pobl awtistig yn eu hwynebu, a gwneud eich busnes neu wasanaeth yn fwy cyfeillgar i awtistiaeth.
Fel cyflogwr, gallwch chi ddysgu am fanteision cyflogi person awtistig, a’r rhan y gallwch chi ei chwarae i wneud y byd yn fwy cyfeillgar i awtistiaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: