BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Elusennau Cymru 2022

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn ôl ac yn cael ei chynnal eleni rhwng 21 i 25 Tachwedd 2022.

Nod yr wythnos yw cydnabod ac amlygu gwaith gwych elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.

Mae elusennau nid yn unig yn achubiaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed, ond maen nhw hefyd yno i bobl drwy’r cyfnodau da a drwg, yn cymryd camau bach yr olwg sy’n arwain at wahaniaeth mawr.

Dewch i ni wneud #MwyOWahaniaethGydanGilydd yn ystod #WythnosElusennauCymru. Ewch ati i wirfoddoli, rhoi neu ddweud diolch i’ch hoff elusen neu grŵp gwirfoddol!

Waeth a ydych chi’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda mudiad elusennol neu dim ond eisiau rhoi sylw i elusen sy’n agos at eich calon, mae llwyth o ffyrdd o gymryd rhan yn ystod Wythnos Elusennau Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  Wythnos Elusennau Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.