Mae dathliad cydraddoldeb ac amrywiaeth mwyaf Cymru yn troi’n ddigidol!
O ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, bydd Pride Cymru 2020 yn cael ei gynnal yn rhithwir.
Bydd Wythnos Fawr Rithwir Pride Cymru yn wythnos lle bydd cymunedau yn dal i gael y cyfle i gadw mewn cysylltiad, codi ymwybyddiaeth a rhannu negeseuon.
Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn, yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd i gymryd rhan ac i gefnogi’r digwyddiad, dilynwch Pride Cymru ar Facebook, Twitter ac Instagram #pridecymru #virtualbigweek2020 i gael y newyddion diweddaraf.