BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ffoaduriaid 2023

Cynhelir Wythnos Ffoaduriaid rhwng 19 a 25 Mehefin 2023. A'r thema eleni yw ‘Compassion’.

Mae Wythnos Ffoaduriaid yn ŵyl ledled y DU sy'n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy'n chwilio am noddfa. Cafodd ei sefydlu ym 1998 a chaiff ei chynnal bob blwyddyn o amgylch Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ar 20 Mehefin. Mae Wythnos Ffoaduriaid hefyd yn fudiad byd-eang sy'n tyfu.

Drwy raglen o ddigwyddiadau celfyddydol, diwylliannol, chwaraeon ac addysgol ochr yn ochr ag ymgyrchoedd yn y cyfryngau ac ymgyrchoedd creadigol, mae Wythnos Ffoaduriaid yn galluogi pobl o wahanol gefndiroedd i gysylltu y tu hwnt i labeli, yn ogystal ag annog dealltwriaeth o'r rheswm pam y mae pobl yn cael eu dadleoli, a'r heriau sy'n eu hwynebu wrth geisio diogelwch. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn llwyfan i bobl sydd wedi ceisio diogelwch yn y DU rannu eu profiadau, eu safbwyntiau a'u gwaith creadigol ar eu telerau eu hunain.

Gweledigaeth yr Wythnos Ffoaduriaid yw i ffoaduriaid a cheiswyr lloches allu byw'n ddiogel o fewn cymunedau cynhwysol a gwydn, lle gallant barhau i wneud cyfraniad gwerthfawr.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol About | Refugee Week

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn ymwneud â bod o fudd i'r bobl a'r mannau o'ch cwmpas wrth gael effaith gadarnhaol ar eich busnes a gallwch wneud gwahaniaeth drwy gymryd rhan yn eich cymuned leol.

Am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol. Busnes Cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.