BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ffoaduriaid 2024

group of people filling in forms

Wythnos Ffoaduriaid, a gynhelir rhwng 17 Mehefin a 23 Mehefin 2024, yw gŵyl gelfyddydau a diwylliant fwyaf y byd sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa.

Cafodd ei sefydlu ym 1998 yn y DU, ac mae’r ŵyl flynyddol hon yn cyd-redeg â Diwrnod Ffoaduriaid y Byd, a gaiff ei ddathlu ledled y byd ar 20 Mehefin.

Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dathlu cyfraniadau ffoaduriaid a cheiswyr noddfa er mwyn herio stereoteipiau negyddol a chreu gofod lle gall ffoaduriaid gael eu gweld a’u clywed y tu hwnt i’w profiad o ddadleoli.

Thema Wythnos Ffoaduriaid 2024 yw ‘Ein Cartref’. O’r mannau lle’r ydym yn ymgynnull i rannu prydau, i’n cartref ar y cyd, sef y ddaear: mae gwahoddiad i bawb ddathlu’r hyn y mae ein ‘Ein Cartref’ yn ei olygu iddynt.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: About – Refugee Week

Darllenwch am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth i ni gyflawni ymrwymiadau’r cynllun Cenedl Noddfa: Cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches (cenedl noddfa): adroddiad cynnydd 2024 | LLYW.CYMRU 

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn ymwneud â bod o fudd i’r bobl a’r mannau o’ch cwmpas gan gael effaith gadarnhaol ar eich busnes, a gallwch wneud gwahaniaeth trwy gymryd rhan yn eich cymuned leol. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Busnes cyfrifol | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.