BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Gwaith Ieuenctid: Dros £1 miliwn i helpu sefydliadau i gefnogi pobl ifanc

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei chymorth i helpu sefydliadau gwaith ieuenctid i ymateb i alw mwy am wasanaethau, costau gweithredu uwch, a newid yn y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae sefydliadau gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i fyw bywydau sy’n dod â bodlonrwydd, gan ddarparu llefydd a chydberthnasau er mwyn iddynt allu mwynhau, teimlo’n ddiogel, a theimlo’u bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. I lawer o bobl ifanc sy’n agored i niwed, mae’r sefydliadau hyn yn cynnig llefydd diogel sydd ag oedolion dibynadwy i wrando arnynt. Gall y cyfleoedd unigryw a gynigir gan waith ieuenctid gefnogi pobl ifanc drwy ddatblygiadau mawr yn eu bywydau a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Wythnos Gwaith Ieuenctid: Dros £1 miliwn i helpu sefydliadau i gefnogi pobl ifanc | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.