BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2022

Mae oddeutu traean y bwyd a gynhyrchir ledled y byd yn cael ei golli neu ei wastraffu ac yn cael effaith wirioneddol ar newid hinsawdd, gan gyfrannu 8-10% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o waith ddyn.

Dyna pam mae WRAP a Hoffi Bwyd Casau Gwastraff yn neilltuo wythnos o weithredu i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau amgylcheddol gwastraffu bwyd, a hyrwyddo gweithgareddau sy’n helpu i leihau faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu.

Cynhelir Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd rhwng 7 ac 13 Mawrth 2022.

Gofynnir i’r diwydiant Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd ddod at ei gilydd gyda dinasyddion ledled y DU i weithredu ar y bwyd sy’n cael ei wastraffu ac sy’n bwydo newid hinsawdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd | WRAP

Dyma sut i sicrhau bod eich busnes yn masnachu'n gyfrifol ac yn foesegol. Cofrestrwch ar gyfer ein tiwtorial ar-lein i gael cyngor ac arweiniad: BOSS: Ynglŷn â Masnachu’n Gyfrifol (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.