BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Lleoliadau Annibynnol: cyllid i leoliadau cerdd llawr gwlad ledled Cymru

Drum Kit

Mae Porters, y lleoliad adnabyddus a phoblogaidd yng Nghaerdydd, newydd gael bywyd newydd ar ôl symud i adeilad newydd yng nghanol y ddinas.

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden wedi cyhoeddi yn ystod Wythnos y Lleoliadau Annibynnol bod £718,000 wedi'i gynnig i 17 o leoliadau cerdd llawr gwlad ledled Cymru o Gronfa Cyfalaf Cerdd Cymru Greadigol.

Mae'r cyllid wedi eu helpu hefyd i wneud eu lleoliad newydd yn fwy hygyrch i gwsmeriaid anabl.

Mae Llywodraeth Cymru am y bumed flwyddyn o'r bron wedi helpu busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch â'u biliau trethi busnes, am gost o £78 miliwn. Mae hynny ar ben y bron £1 biliwn o gymorth ardrethi oedd eisoes wedi'i roi i'r sectorau hyn ers 2020-21. Hefyd, mae cronfa gyfalaf newydd gwerth £20 miliwn yn cael ei datblygu ar gyfer 2024/25 i helpu busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch i ddiogelu eu busnesau i'r dyfodol.

Mae'r cyllid diweddaraf hwn yn codi cyfanswm cefnogaeth Cymru Greadigol i leoliadau cerddoriaeth a busnesau i ragor na £9.6 miliwn ers 2020.

Mae Porters yn un o 17 lleoliad fydd yn elwa o'r gronfa gan eu helpu gyda'r gwaith datblygu a symud diweddar.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Wythnos Lleoliadau Annibynnol: cyllid i leoliadau cerdd llawr gwlad ledled Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.