BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Masnach Ryngwladol 2021

Mae Wythnos Masnach Ryngwladol gyntaf erioed y DU yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau cyffrous i helpu busnesau i ddysgu mwy am werthu byd-eang ac am gysylltu ag arbenigwyr y diwydiant masnach.

Os yw’ch busnes yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau yn rhyngwladol yn barod, neu heb ddechrau arni eto, os ydych chi’n fusnes bach sy’n newydd i allforio i gwmnïau amlwladol ac am ehangu eich gorwelion, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn eich ysbrydoli ac yn cynnig cyngor a hyder i chi gymryd y camau nesaf i ddatblygu eich busnes.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 15 a 19 Tachwedd 2021 ledled y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth, canllawiau a chyngor sy’n gallu eich cynorthwyo lle bynnag yr ydych ar eich taith allforio. Cofrestrwch eich diddordeb a gwnewch gais am Ddigwyddiadau Tramor.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.