Wythnos Mynd Ar-lein yw ymgyrch cynhwysiant digidol blynyddol Good Things. Fe’i cynhaliwyd bob blwyddyn ers 2007 ac mae nôl ar gyfer 2024 rhwng 14 Hydref a 20 Hydref.
Nod yr wythnos yw helpu degau o filoedd o bobl i ddarganfod manteision bod ar-lein a meithrin eu hyder wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd trwy ddigwyddiadau cymunedol hwyliog sy’n rhad ac am ddim. Os ydych chi'n sefydliad ac yn cefnogi'ch cymuned leol, ystyriwch gynnal digwyddiad!
Y llynedd, cynhaliwyd dros 865 o ddigwyddiadau ledled y DU, gan gefnogi dros 16,000 o bobl i groesi'r gagendor digidol mewn wythnos yn unig.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Get Online Week | The UK’s Largest Digital Inclusion Campaign | Good Things Foundation
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi ac yn hyfforddi pobl i ddatblygu eu sgiliau digidol ac i fynd ar-lein: Digital Communities Wales (gov.wales)