BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022: Gweinidog yn ymrwymo £366 miliwn i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yng Nghymru

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi ar ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 y bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y buddsoddiad mawr hwn yn helpu i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050, ac i ddileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050. Bydd hyn yn helpu i sicrhau Cymru decach sy’n gadael neb ar ôl ac yn gwneud Cymru'n lle y gall pobl deimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma.

Nod rhaglen brentisiaethau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a chynyddu eu cyfleoedd bywyd. Bydd yn cefnogi cyflogwyr a'u gweithwyr ledled Cymru, gan flaenoriaethu recriwtiaid newydd yn benodol. Mae'r rhaglen brentisiaethau hefyd yn rhan bwysig o'r Gwarant i Bobl Ifanc.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 yn ddathliad o waith caled ac ymroddiad prentisiaid a'r gefnogaeth a'r ymrwymiad a ddangosir gan eu cyflogwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. I gael rhagor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i Prentisiaethau Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.