Mae'r Gymdeithas Ryngwladol Rheoli Straen (ISMAUK) yn elusen gofrestredig a'r corff proffesiynol arweiniol ar gyfer rheoli straen personol a straen yn y gweithle, gan gefnogi iechyd meddwl, lles a pherfformiad da.
Cynhelir Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen 2024 rhwng 4 a 8 Tachwedd, ac mae'n ddigwyddiad blynyddol mawr sy'n canolbwyntio ar reoli straen ac ymgyrchu yn erbyn y stigma sy'n gysylltiedig â straen a materion iechyd meddwl.
Hanner ffordd drwy'r wythnos, cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth am Straen ddydd Mercher, 6 Tachwedd.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: International Stress Awareness Week
P'un a ydych chi'n fusnes bach neu'n gorfforaeth fawr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr atal straen yn gysylltiedig â gwaith i gefnogi iechyd meddwl da yn y gweithle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Working Minds Employers - Work Right to keep Britain safe
Ydych chi'n trafod iechyd meddwl yn y gwaith?
Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i dalu sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yw straen yn broblem iechyd meddwl ond gall dros amser heb ei reoli achosi, neu waethygu problemau iechyd meddwl: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)