BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Tech Cymru 2021

Bydd Wythnos Tech Cymru yn dychwelyd yn yr haf, ar ôl digwyddiad cyntaf llwyddiannus yn 2020.

Cynhelir Wythnos Tech Cymru, sy’n dwyn ynghyd gyfranogwyr blaenllaw yn y gymuned dechnoleg fyd-eang, rhwng 21 a 25 Mehefin 2021, fel gŵyl rithwir yn ffrydio bedwar ban byd, mewn amser real.

Bydd y digwyddiad am ddim yn ŵyl haf bum diwrnod yn llawn siaradwyr o safon byd o rai o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru a thu hwnt, ac i’w gweld ar draws sawl ‘llwyfan’ gydol yr wythnos.

Bydd pob llwyfan rhithwir yn cynnal gwahanol dechnolegau a sectorau, yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, sgyrsiau, cyfarfodydd bord gron, sesiynau panel a mwy, a fydd yn apelio i’r rhai sy’n gweithio ym maes technoleg a’r rheiny sy’n chwilfrydig am dechnoleg ac am glywed sut gall technoleg weddnewid eu busnesau, eu gyrfaoedd a’u bywydau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Technology Connected.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.