BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ymwybyddiaeth Galar Plant 2021

Bellach yn ei seithfed flwyddyn, nod Wythnos Ymwybyddiaeth Galar Plant y DU, a sefydlwyd gan yr elusen profedigaeth yn ystod plentyndod flaenllaw, Grief Encounter yw codi ymwybyddiaeth o blant a phobl ifanc sydd wedi profi profedigaeth yn y DU, a sut gall darparu cymorth proffesiynol am ddim i'r rhai sydd wedi'u heffeithio wneud byd o wahaniaeth i'w dyfodol.

Bydd sefydliadau ac elusennau ledled y DU yn dangos undod â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n galaru yn eu cymuned; gan godi ymwybyddiaeth o'u hanghenion a sut i helpu.

Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Galar Plant yng nghanol mis Tachwedd bob blwyddyn. Nod y diwrnod byd-eang hwn yw ein helpu ni i gyd i fod yn fwy ymwybodol o anghenion plant sy'n galaru — ac o'r manteision a gânt drwy gefnogaeth gan bobl eraill.

Gwnewch i'ch busnes sefyll allan fel sefydliad moesegol sydd ag ymrwymiad cryf i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ymunwch â sefydliadau ledled y DU a threfnu diwrnod porffor Go Purple adeg Wythnos Ymwybyddiaeth Galar Plant – 18 i 25 Tachwedd 2021.

Am ragor o wybodaeth ewch i Home (childrensgriefawarenessweek.com) 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.