Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad blynyddol lle mae'r DU gyfan yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar gyflawni iechyd meddwl da.
Nod yr wythnos yw mynd i'r afael â'r stigma a galluogi pobl i ddeall a rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl.
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni rhwng 15 Mai a 21 Mai 2023, a'r thema yw Pryder. Mae pryder yn emosiwn dynol pwysig ond, mewn rhai amgylchiadau, mae'n gallu mynd allan o reolaeth a dod yn broblem iechyd meddwl.
Gall llawer o bethau gwahanol gyfrannu at deimladau o bryder, gan gynnwys arholiadau, perthnasoedd, swydd newydd, dêt neu newid mawr mewn bywyd. Mae hefyd yn emosiwn mae pobl yn ei brofi'n aml o ran arian a methu bodloni anghenion sylfaenol bywyd.
Pryder hefyd yw un o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin mae pobl yn eu hwynebu.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:
- Mental Health Awareness Week 2023 | Mental Health Foundation
- What can we do to cope with feelings of anxiety? | Mental Health Foundation
Ydych chi'n siarad am iechyd meddwl yn y gwaith?
Ni fu erioed yn bwysicach rhoi sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)