BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyslecsia 2023

Group of business partners discussing ideas

Cynhelir yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyslecsia rhwng 2 Hydref ac 8 Hydref 2023, ac mae’n dathlu amrywiaeth y gymuned ddyslecsig a’r amrediad cyfoethog o brofiadau bywyd o ddyslecsia.

Y thema eleni yw Rwyt Ti’n Unigryw.
Mae pob person â dyslecsia yn ei brofi mewn ffyrdd sy’n unigryw iddyn nhw. Bydd gan bob un ei set ei hun o gryfderau a heriau, a bydd yn troedio ei lwybr ei hun trwy fywyd.

Amcangyfrifir bod gan 15% o’r boblogaeth ddyslecsia a/neu wahaniaethau dysgu penodol eraill (ADP), felly mae’n debygol iawn y ceir niwroamrywiaeth o fewn unrhyw weithle.

Gall niwroamrywiaeth fod yn ased sylweddol i sefydliad, gan ddod â dimensiwn gwahanol i ddatrys problemau neu greadigrwydd yn y ffordd y mae sefydliad yn gweithredu ac yn darparu ei gynnyrch a/neu ei wasanaethau.

Mae bod yn ystyriol o ddyslecsia yn gwneud synnwyr busnes da. Mae gwreiddio’r ethos hwn yn eich sefydliad yn fuddiol i bawb, gan ei fod yn galluogi eich gweithwyr i gyflawni eu potensial, ac yn cefnogi eich cwsmeriaid a chleientiaid dyslecsig ar yr un pryd.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gefnogi eich gweithwyr, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyflogwr - Cymdeithas Dyslecsia Prydain (bdadyslexia.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.