Cymerwch ran yn yr ymgyrch rhwng 19 a 23 Hydref 2020 i helpu i gadw'ch elusen yn ddiogel rhag twyll.
Fel pob sector, gall elusennau fod yn agored i dwyll a seiberdroseddu. Gall y rhai sy'n darparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i gymunedau lleol yn ystod pandemig Coronafeirws (COVID-19) fod yn arbennig o agored i niwed.
Gall pob elusen, hyd yn oed y rhai sydd â chronfeydd wrth gefn cymharol fach i alw arnynt, gymryd camau syml i hybu cadernid rhag twyll a seiberdroseddu.
Nod yr ymgyrch ymwybyddiaeth o dwyll yw annog a grymuso elusennau i siarad am dwyll a rhannu arferion gorau.
Bydd ymgyrch 2020 yn canolbwyntio ar 3 neges syml:
- bod yn ymwybodol o dwyll
- cymryd amser i wirio
- cadw eich elusen yn ddiogel
Gallwch gael gafael ar lond gwlad o adnoddau am ddim o un hyb ymwybyddiaeth o dwyll elusennol defnyddiol.
Cewch yno sesiynau tiwtorial byr, gweminarau ar alw, fideos a thaflenni ffeithiau i'ch helpu gydag ymwybyddiaeth o dwyll.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK