Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n amlinellu goblygiadau’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE, a nodir yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer dinasyddion, busnesau a chymunedau Cymru yn ogystal â’n diogelwch yn y dyfodol.
Mae'r canllawiau'n cynnwys:
- Beth mae’n ei olygu i bobl sy’n byw yng Nghymru
- Beth mae’n ei olygu i fusnesau a gweithwyr Cymru
- Beth mae’n ei olygu i’n diogelwch
- Beth mae’n ei olygu i’n cymunedau a’n cymdeithas
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.