BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y cyfnod clo i barhau am dair wythnos arall wrth i ddisgyblion fynd yn ôl i’r ysgol

Bydd y cyfyngiadau ‘aros gartref’ yn parhau yng Nghymru wrth i’r plant lleiaf ddechrau mynd yn ôl i’r ysgol o ddydd Llun 22 Chwefror 2021.

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd newidiadau bach i’r rheolau presennol:

  • O ddydd Sadwrn 20 Chwefror, bydd pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod y tu allan i wneud ymarfer corff yn lleol gan gadw pellter wrth ei gilydd. Nid yw hyn yn berthnasol i erddi preifat.
  • O 1 Mawrth, bydd y gyfraith yn cael ei newid i ganiatáu i leoliadau priodas trwyddedig, megis atyniadau i ymwelwyr a gwestai, ailagor i gynnal seremonïau priodas a phartneriaethau sifil.
  • Bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud trefniadau i fwy o’n athletwyr dawnus i ailddechrau hyfforddiant a chwarae.
  • Gyda mwy o bobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghartrefi gofal yr henoed yn cael eu brechu, byddwn yn edrych eto ar ein canllawiau ar gyfer ymweld â chartrefi gofal.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau yn ystyried y cyfyngiadau ar siopau dianghenraid a gwasanaethau cysylltiad agos.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.