BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cyfnod Pontio: Cytundebau masnach y DU â gwledydd y tu allan i’r UE

Mae’r Cytundeb Ymadael yn dweud sut mae modd i’r DU barhau i ddod o dan gytundebau’r UE ar fasnachu â thrydydd gwledydd yn ystod y cyfnod pontio.

Ar y sail hon, gall cytundebau masnach yr UE barhau i fod yn gymwys i’r DU.

Lle mae cytundebau masnach o eiddo’r UE yn gymwys, bydd cynnwys o’r DU a’r UE yn parhau i gyfrif tuag at ofynion rheolau tarddiad mewn cytundebau masnach o eiddo’r UE yn ystod y cyfnod pontio, yn yr un ffordd yn union ag hyn o bryd.

Mae’r UE wedi cyhoeddi hysbysiad i drydydd gwledydd yn amlinellu’r drefn hon.

Ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben, ni fydd cytundebau masnach yr UE yn gymwys i’r DU.

Mae’r DU yn ceisio atgynhyrchu effeithiau cytundebau presennol yr UE ar gyfer yr adeg pan na fyddant mwyach yn gymwys i’r DU.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.