BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cyfnod Pontio: Newid cofrestriad eich cwmni o 1 Ionawr 2021

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu canllawiau i’ch helpu i ganfod p’un a fydd angen i’ch busnes newid ei gofrestriad cwmni o 1 Ionawr 2021, a sut mae gwneud hyn.

Ni fydd gadael yr UE yn effeithio ar y ffordd mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’r DU yn darparu gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau.

Yn ystod y cyfnod pontio, ni fydd y DU mwyach yn aelod-wladwriaeth o’r UE. Ond yn ystod y cyfnod hwn bydd mynediad i’r farchnad yn parhau ar y telerau presennol.

Er mwyn rhoi sicrwydd i fusnesau a dinasyddion, bydd rheolau cyffredin yn parhau mewn grym tan 31 Rhagfyr 2020. Mae hyn yn golygu y bydd busnesau’n dal i allu masnachu ar yr un telerau ag ar hyn o bryd.

Ar ba fusnesau y bydd hyn yn effeithio

O 1 Ionawr 2021, efallai y bydd angen i’ch busnes newid ei gofrestriad cwmni os yw’n:

  • endid Ewropeaidd wedi’i ffurfio o dan gyfraith yr UE
  • cwmni o’r DU sydd â swyddog corfforaethol AEE
  • cwmni o'r DU sy’n rhan o drefniant uno cwmnïau trawsffiniol
  • cwmni EEA

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.