I fynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau fis Mawrth sy’n gosod cyfyngiadau llym ar ymgynnull, ar symudiadau pobl, ac ar y ffordd y mae busnesau’n gweithredu, gan gynnwys eu cau.
Maent hefyd yn gosod gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau pellter corfforol rhwng pobl.
Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig (SAGE) a chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn dangos, ei bod yn dal yn rhy fuan i godi’r gofynion a’r cyfyngiadau yn sylweddol.
Cyngor cyfredol yn cynnwys:
- gofynnir i bobl barhau i weithio gartref os gallant
- os y gallwch, dylech aros gartref
- o oes angen i chi adael y cartref i weithio, ymarfer corff neu siopa, dylech aros yn lleol ac aros yn wyliadwrus
- os ydych yn mentro allan, arhoswch yn lleol ac arhoswch yn ddiogel
Mae newidiadau bach i'r rheoliadau o ddydd Llun 11 Mai 2020 yn cynnwys:
- caniatáu i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond gan aros yn eu hardal leol. Mae hynny’n golygu y dylai unrhyw ymarfer ddechrau a gorffen yn y cartref ac na ddylid teithio pellter sylweddol o’r cartref
- galluogi awdurdodau lleol i ddechrau ar y broses o gynllunio sut y gellir agor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu yn ddiogel
- caniatáu i ganolfannau garddio agor ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r rheol pellter corfforol
Ewch i'r wefan Llyw.Cymru i weld y cyhoeddiadau diweddaraf.