BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y cyngor diweddaraf ar siarad gyda’ch gweithwyr am atal y coronafeirws

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi diweddaru ei ganllawiau i’ch helpu i gynnal sgyrsiau gyda’ch gweithlu am ddarparu cymorth a chadw mesurau rheoli ar waith.

Mae siarad gyda’ch gweithwyr yn golygu y gallwch egluro newidiadau rydych yn eu gwneud i gadw’r gweithle yn ddiogel o ran COVID a dal ati i gynnal eich busnes yn ddiogel. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i weithwyr:

  • ddweud wrthych os ydynt yn bryderus am unrhyw risgiau yn y gweithle
  • dylanwadu ar benderfyniadau am iechyd a diogelwch

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.