BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws: Cyhoeddi gwybodaeth am hawliadau

Ar 26 Ionawr 2021, bydd CThEM yn cyhoeddi rhestr o enwau cyflogwyr sydd wedi hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws am gyfnodau o fis Rhagfyr ymlaen ar GOV.UK.

O fis Chwefror, bydd CThEM yn cyhoeddi’r enwau, gwerth hawliadau a Rhifau Cofrestru Cwmni (i’r rhai sydd gydag un) cyflogwyr sy’n cyflwyno hawliadau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws am gyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020.

Ni fydd manylion cyflogwyr sy’n hawlio drwy’r cynllun yn cael eu cyhoeddi os gallant ddangos y byddai eu cyhoeddi’n arwain at risg ddifrifol o drais neu gael eu bygwth i unigolion, neu’r rhai sy’n byw gyda nhw.

I ofyn am beidio â chyhoeddi’ch manylion, llenwch y ffurflen gais ar-lein yn GOV‌‌‌.UK. Os ydych chi angen gwneud hyn, ni fydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi nes i benderfyniad gael ei wneud a’ch bod wedi’ch hysbysu. Mae’n rhaid i chi wneud y cais eich hun ac ni all asiant wneud hynny ar eich rhan.

Bydd eich gweithwyr cyflogedig yn gallu edrych hefyd i weld a ydych chi wedi gwneud cais i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar eu rhan drwy eu Cyfrif Treth Personol ar-lein o fis Chwefror ymlaen. Gallant agor Cyfrif Treth Personol drwy fynd i GOV‌‌‌‌‌‌.UK.

Bydd manylion y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn cael eu cyhoeddi fel rhan o ymrwymiad CThEM i dryloywder ac i atal hawliadau twyllodrus.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.