BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cynllun Cefnogi Swyddi wedi'i ehangu i gwmnïau y mae'n ofynnol iddyn nhw gau oherwydd cyfyngiadau Covid

Bydd y Cynllun Cefnogi Swyddi (JSS) yn cael ei ehangu i gefnogi busnesau ledled y DU y mae'n ofynnol iddyn nhw gau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

O dan yr ehangu hwn, bydd cwmnïau y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddyn nhw gau am ryw gyfnod dros y gaeaf fel rhan o gyfyngiadau lleol neu genedlaethol yn derbyn grantiau i dalu cyflogau staff na allant weithio - gan ddiogelu swyddi a galluogi busnesau i ailagor yn gyflym unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi.

Dim ond tra'u bod yn destun cyfyngiadau y bydd busnesau yn gymwys i hawlio'r grant, a rhaid i weithwyr fod i ffwrdd o'r gwaith am o leiaf saith diwrnod yn olynol.

Bydd y cynllun yn cychwyn ar 1 Tachwedd 2020 a bydd ar gael am chwe mis, gyda phwynt adolygu ym mis Ionawr. Yn unol â gweddill y JSS, bydd taliadau i fusnesau yn cael eu gwneud fel ôl-daliadau, drwy wasanaeth hawlio Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a fydd ar gael o ddechrau mis Rhagfyr ymlaen. Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn nodi canllawiau pellach ar y cynllun maes o law. 

Mae'r cynllun ar gael ledled y DU a bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y cynllun yn gweithredu'n effeithiol ar draws y pedair gwlad.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.