Dysgwch fwy am y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni (EBDS) ar gyfer cwsmeriaid annomestig ansafonol.
Mae gwneuthurwyr dur, gweithfeydd ailgylchu a gweithgynhyrchwyr ymhlith y busnesau a fydd yn elwa ar gynllun newydd a lansiwyd gan Lywodraeth y DU i helpu gyda chost eu biliau ynni.
O 17 Mai 2023, gall y cwmnïau hyn - a elwir yn Gwsmeriaid Ansafonol - nawr wneud cais am gymorth gyda'u biliau o fis Ebrill 2023 tan fis Mawrth 2024, yn debyg i'r cymorth y bydd eraill yn ei dderbyn o dan Energy Bills Discount Scheme (EBDS) Llywodraeth y DU.
Gall rhai o'r busnesau a'r sefydliadau hyn sy'n defnyddio cyflenwr sydd wedi'i eithrio rhag trwydded hefyd wneud cais am gymorth wedi'i ôl-ddyddio o dan y Non-Standard Cases Energy Bill Relief Scheme.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:
- Energy Bills Discount Scheme: non-standard cases - GOV.UK (www.gov.uk)
- Energy Bill Relief Scheme: non-standard cases - GOV.UK (www.gov.uk)
- Hundreds more businesses offered energy bills cash boost - GOV.UK (www.gov.uk)