Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod nad yw rhai sefydliadau’n gallu elwa o’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni (EBRS). Y rheswm am hyn yw oherwydd bod dull darparu’r EBRS yn golygu bod angen cyflenwr trwyddedig er mwyn cymhwyso’r gostyngiad.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio tystiolaeth gan sefydliadau nad ydynt yn gallu elwa o’r cynllun oherwydd eu bod yn gyflenwyr ynni anhrwyddedig neu’n cyflenwi ynni i fusnesau mewn ffyrdd ansafonol.
Y dyddiad cau i ymateb i’r arolwg yw 9 Rhagfyr 2022. I gael rhagor o wybodaeth a llenwi’r arolwg, dilynwch y ddolen ganlynol Energy Bill Relief Scheme: non-standard supplies of energy - call for evidence - Department for Business, Energy and Industrial Strategy - Citizen Space