BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Daith 2023

Work colleagues looking at a digital device

Rydym wedi dechrau cyfri’r diwrnodau’n swyddogol ar gyfer Dydd Sadwrn y Busnesau Bach gan fod taith eiconig Dydd Sadwrn y Busnesau Bach y DU yn ôl eto ym mis Tachwedd! 

Bydd 'Y Daith' yn ymweld â 23 o wahanol drefi a dinasoedd ledled y DU drwy gydol mis Tachwedd, gan ymweld â busnesau bach a thynnu sylw at eu cyfraniad i economi'r DU a chymunedau lleol.

Bydd rhaglen ddyddiol am ddim o ddigwyddiadau ar-lein – gan gynnwys gweithdai, gweminarau, mentora a straeon entrepreneuraidd ysbrydoledig – ar agor i fusnesau bach.

Dyma’r lleoliadau a'r dyddiadau ar gyfer Cymru:

  • Wrecsam, 10 Tachwedd 2023
  • Caerdydd, 16 Tachwedd 2023

Bydd 'Y Daith' yn defnyddio cerbydau trydan i leihau allyriadau ac adlewyrchu'r newidiadau cynaliadwy y mae llawer o berchnogion busnesau bach yn eu gwneud fel rhan o'u rôl hanfodol yn y ras i sero net.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference! 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.