BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y daith i sero net i BBaChau

Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi llunio canllawiau sy’n cynnig llwybr i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) i sero net. Mae’n cyflwyno’r opsiynau syml sydd ar gael i BBaChau sy’n dechrau ar eu taith sero net ac yn tynnu sylw at yr heriau yn yr hirdymor.

Mae’r canllawiau’n cynnwys:

  • Beth mae sero net yn ei olygu?
  • Beth yw ôl-troed carbon?
  • Beth sy’n sbarduno cyflawni sero net?
  • Cyfleoedd i leihau carbon ar gyfer BBaChau.
  • Gwrthbwyso carbon a chael gwared ar nwyon tŷ gwydr.
  • Ystyriaethau i BBaChau yn y dyfodol.
  • Cyfathrebu ymrwymiadau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i The journey to net zero for SMEs | The Carbon Trust
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.