BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y diweddaraf am grantiau a thaliadau gwledig

Ffurflen Cais Sengl 2022 

Mae Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2022 bellach ar gael. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'ch SAF yw hanner nos 16 Mai 2022, neu erbyn 10 Mehefin 2022 gyda chosbau hwyr. Ni ellir cyflwyno na derbyn SAF ar ôl 10 Mehefin 2022. Ceir canllawiau a gwybodaeth ar LLYW.CYMRU 

Ni all Taliadau Gwledig Cymru (RPW) gynnig apwyntiadau 'Cymorth Digidol'. Defnyddiwch y canllaw i gwblhau eich SAF ar-lein cyn gynted â phosibl.

Canllawiau Trosglwyddo Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 

Mae'r cyfleuster hysbysu trosglwyddo ar gyfer hawliau 2022 ar gael ar Taliadau Gwledig Cymru ar-lein. Rhaid hysbysu Taliadau Gwledig Cymru erbyn 15 Mai 2022 er mwyn i'r derbynnydd wneud hawliad ar hawliau y maent yn eu derbyn ar gyfer blwyddyn cynllun BPS 2022. 

Cynllun Datblygu Garddwriaeth

Mae Cynllun Datblygu Garddwriaeth newydd ar agor ar hyn o bryd ac yn cau ar 27 Mai 2022. Mae'r cynllun ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. 

Cynllun Cynllunio Creu Coetiroedd 

Mae cynllun Cynllunio Creu Coetiroedd ar agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb. Mae'r cynllun yn cynnig cymorth i ddatblygu cynlluniau creu coetiroedd newydd.        

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, darllenwch ganllawiau'r cynllun. 

Cynllun Ffermio Cynaliadwy 

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gofrestru nawr i ddweud eu dweud am y cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Mae gweithio'n agos gyda ffermwyr a chael adborth ar gynigion yn hanfodol i ddatblygu cynllun sy'n gweithio i Gymru. I fod yn rhan o ail gam cyd-gynllunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, cofrestrwch eich diddordeb, neu cysylltwch â’r Gwasanaeth Cysyllwyr Fferm 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.