BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Diweddaraf ar bontio gan CThEM – gweithwyr sy’n symud rhwng y DU a’r UE

Mae’r DU wedi dod i gytundeb gyda’r UE am eu perthynas yn y dyfodol. Mae’r darpariaethau cydlynu nawdd cymdeithasol yn y cytundeb hwn yn sicrhau nad yw gweithwyr sy’n symud rhwng y DU a’r UE ond yn gorfod talu i gynllun nawdd cymdeithasol un wlad ar y tro.

Mae’r wlad y byddwch chi a’ch gweithiwr yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol iddi yn dibynnu ar a yw’r wlad UE wedi cytuno i gymhwyso’r rheolau gweithwyr datgysylltiedig.

Lle mae gwlad yr UE wedi cytuno i gymhwyso’r rheolau hyn:

  • Bydd gweithwyr o’r DU sy’n cael eu hanfon gan eu cyflogwyr ddim ond yn gorfod talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am y cyfnod o weithio yn y wlad UE (hyd at 24 mis). Am ragor o wybodaeth am fynd i weithio dros dro yn yr UE, ewch i GOV.UK. Mae gwybodaeth am fynd i weithio dros dro yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a’r Swistir yno hefyd.
  • Bydd gweithwyr o’r UE sydd wedi’u hanfon gan eu cyflogwr i weithio dros dro yn y DU o wlad sydd wedi cytuno i gymhwyso’r rheol gweithiwr datgysylltiedig yn parhau yn atebol i dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol y wlad yn yr UE yn unig. Am ragor o wybodaeth am ddod i weithio dros dro yn y DU, ewch i GOV.UK. Mae gwybodaeth am fynd i weithio dros dro yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a’r Swistir yno hefyd.

O ran gwledydd yr UE nad ydynt yn cymhwyso’r rheolau hyn, byddwch chi a’ch gweithiwr yn atebol i dalu cyfraniadau yn y wlad lle maen nhw’n gweithio dros dro os nad ydynt o fewn cwmpas y Cytundeb Ymadael.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n mynd i weithio yn yr UE

Dylech barhau i wneud cais i CThEM am yr un ffurflenni ar ran yr unigolyn sy’n mynd i weithio yn yr UE. Os nad ydynt yn gymwys am dystysgrif, bydd angen i chi neu’ch gweithiwr gysylltu â'r sefydliad nawdd cymdeithasol UE perthnasol er mwyn dechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad honno.

Beth am fynd i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor a chanllawiau pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.