O ddydd Mercher, bydd y sefydliadau canlynol yn gallu gwneud cais am gyfran o £18.5 miliwn Cronfa Adfer Ddiwylliannol:
- cherddoriaeth
- stiwdios recordio a rihyrsio
- cyrff treftadaeth ac atyniadau hanesyddol
- amgueddfeydd ac archifdai
- llyfrgelloedd
- digwyddiadau a’u cyflenwyr technegol
- sinemâu annibynnol
- sector cyhoeddi
Mae Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi bod ar gael ers 1 Medi 2020.
Bydd grant (na fydd angen ei dalu’n ôl) o hyd at £150,00 (ar gyfer hyd at 100% o’r costau cymwys) ar gael i bob corff trwy ddau bwynt ymgeisio:
- o dan £10,000 - proses gyflym ar gyfer cyrff bach, yn seiliedig ar y costau cymwys
- rhwng £10,000 a £150,000 - proses fanylach, yn seiliedig ar y costau cymwys.
Bydd y Gronfa’n cau ar gyfer ceisiadau newydd ar 2 Hydref 2020.
Bydd cronfa o £7 miliwn ar gael hefyd i helpu pobl lawrydd yn y sector y mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw. Bydd y gronfa’n agor i ymgeiswyr ddydd Llun, 5 Hydref 2020.
Gofynnir i unigolion gadarnhau eu bod yn gymwys cyn gwneud cais trwy fynd i Wiriwr Cymhwysedd y Gronfa Adferiad Diwylliannol.
Bydd mwy o ganllawiau ar sut i wneud cais yn cael eu lanlwytho'n fuan.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.