Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130 miliwn, a gynorthwyir gan Fanc Busnes Prydain, wedi taro £10 miliwn o fuddsoddiadau o Gaerffili i Lannau Dyfrdwy ac o Abertawe i Fangor.
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) gwerth £130 miliwn wedi taro ei charreg filltir fawr gyntaf ar ôl buddsoddi a benthyca £10m i fusnesau llai yng Nghymru. Daw’r cyhoeddiad blwyddyn ar ôl lansio’r IFW.
Cronfa Buddsoddi i Gymru’r Banc yw’r gronfa buddsoddi gyntaf ar gyfer busnesau bach yng Nghymru a gynhelir yn llwyr gan Llywodraeth y DU, ac mae’n helpu i gynyddu ac amrywio’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael trwy ddarparu opsiynau ar gyfer cwmnïau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl. Bwriad y cyllid yw helpu busnesau â gweithgareddau fel ehangu, arloesi gyda chynhyrchion neu wasanaethau, cyflwyno prosesau newydd, datblygu sgiliau ac offer cyfalaf.
Mae’r garreg filltir yma o £10 miliwn, a phen-blwydd cyntaf y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn dangos sut mae’r gronfa’n codi momentwm. Ond maen’t yn parhau i edrych tua’r dyfodol hefyd, gyda golwg ar ddod o hyd i’r ffordd orau i’r Gronfa weithio dros fusnesau Cymreig llai, a chyfrannu at lwyddiant cynaliadwy parhaus economi Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cronfa Buddsoddi i Gymru - British Business Bank (british-business-bank.co.uk)