BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) yn cynnal cymorthfeydd i randdeiliaid ar gyfer cystadleuaeth gwerth £60 miliwn

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi agor cystadleuaeth newydd fel rhan o’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF): Cam 2 ar gyfer Gwanwyn 2022, a byddant yn cynnal cyfres o gymorthfeydd ar gyfer rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb.

Gall busnesau yng Nghymru wneud cais am gyfran o hyd at £60 miliwn o gyllid grant drwy'r cyfnod cystadlu, a fydd ar agor o 31 Ionawr i 29 Ebrill 2022. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen y gystadleuaeth.

Cymorthfeydd yr IETF i randdeiliaid

Mae cymorthfeydd i randdeiliaid yn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyllid Cam 2 drwy eu galluogi i siarad yn uniongyrchol â BEIS a gofyn cwestiynau am geisiadau posibl, cwmpas y cystadlaethau, meini prawf cymhwysedd, sut i wneud cais am gyllid, y cymorth sydd ar gael gan yr IETF ac ati. 

Mae’r cymorthfeydd yn gyfle gwych i ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau ac mae BEIS yn croesawu'r cyfle i allu siarad â chi a’ch helpu gyda'ch ymholiadau. Mae’r cymorthfeydd olaf ar gyfer cyfnod hwn y gystadleuaeth yn cael eu cynnal ar 12 a 19 Ebrill 2022.

I gofrestru i fynychu’r cymorthfeydd i randdeiliaid ewch i’r wefan gofrestru.

Marchnad Technoleg Rithwir IETF

Er mwyn cefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid yr IETF, mae BEIS yn cynnal y Farchnad Technoleg Rithwir, sy'n cynnig cyfle i berchnogion safleoedd diwydiannol (gweithgynhyrchwyr a chanolfannau data cymwys) bori fideos sy'n arddangos technolegau posibl ar gyfer lleihau'r angen i ddefnyddio ynni a'r allyriadau sy'n gysylltiedig â'u prosesau diwydiannol.

I gofrestru ar gyfer y Farchnad Dechnoleg ewch i’r wefan gofrestru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.