BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y gwaharddiad arfaethedig o gynhyrchu, cyflenwi a gwerthu cadachau gwlyb sy'n cynnwys plastig

A wet wipe peeps out of the pack.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw eich barn ar wahardd cynhyrchu, cyflenwi a gwerthu cadachau gwlyb sy'n cynnwys plastig yn y DU.

Nod y cynnig yw lleihau llygredd plastig a microblastig, yn enwedig yn ein dyfroedd.

Rydym yn gofyn am sylwadau ar y canlynol:

  • Effaith debygol y gwaharddiad arfaethedig ar y busnesau sy'n gweithgynhyrchu, yn cyflenwi neu’n gwerthu weips gwlyb sy'n cynnwys plastig;
  • Effaith debygol y gwaharddiad arfaethedig i ddefnyddwyr, yn enwedig i'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, e.e. pobl anabl;
  • Unrhyw effeithiau ehangach o gadw weips gwlyb sy'n cynnwys plastig mewn cylchrediad;
  • Unrhyw effeithiau ehangach ar gyfer weips sy'n cael eu marchnata fel weips amgen neu weips di-blastig;
  • Cyfansoddiad weips gwlyb amgen;
  • A oes angen unrhyw esemptiadau ar gyfer weips gwlyb sy'n cynnwys plastig; ac
  • Yr amserlen arfaethedig ar gyfer dechrau'r gwaharddiad.

Mae hwn yn ymgynghoriad ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar DEFRA

Ymgynghoriad yn cau ar 25 Tachwedd 2023. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.