Sefydlwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) gan lywodraeth y DU, ac mae’n helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.
Mae bron i 8 o bob 10 o weithwyr cyflogedig y DU yn poeni am faterion ariannol yn ystod eu horiau gwaith, ac mae’n effeithio ar eu perfformiad ond gallwch chi hyrwyddo llesiant ariannol yn y gweithle.
Mae timau partneriaethau rhanbarthol MaPS, yn cynnwys Cymru, yn cynnig cymorth am ddim a ffyrdd ymarferol o’ch helpu i feithrin llesiant ariannol ar draws eich sefydliad yn cynnwys:
- canllawiau ariannol diduedd, rhad ac am ddim
- diogelwch rhag sgamiau
- gwasanaethau parhaus, sydd ar gael o bell
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.