Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr bellach yn fyw ar gyfer busnesau, gan ddarparu addysg a chanllawiau i fasnachwyr sy’n symud nwyddau o dan Brotocol Gogledd Iwerddon, gan gynnwys rhwng Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.
Bydd y gwasanaeth digidol am ddim yn helpu busnesau a masnachwyr o bob maint i ddeall y newidiadau i’r ffordd y bydd nwyddau’n pan ddaw Protocol Gogledd Iwerddon i rym ar 1 Ionawr 2021.
Bydd masnachwyr sy’n cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr yn cael eu tywys drwy’r prosesau newydd o dan Brotocol Gogledd Iwerddon a gallant ei ddefnyddio i gwblhau datganiadau digidol hefyd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.