BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gweinidog Iechyd yn annog pobl i gael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn cyn y dyddiad cau

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog y holl sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu Covid-19 y gwanwyn i fanteisio ar y cynnig cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2022.

Mae dyddiad cau o 30 Mehefin 2022 wedi'i gyflwyno i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn yn cael cyfnod digon hir rhwng hyn a'r pigiad atgyfnerthu yn hydref 2022, os ydynt hefyd yn gymwys.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn fuan gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)  ynglŷn â phwy fydd yn gymwys am bigiad atgyfnerthu’r hydref.

Pobl dros 75 oed, preswylwyr hŷn cartrefi gofal ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yw’r rhai sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu’r gwanwyn yn ôl cyngor y JCVI.

Gall y rhai sy’n 75 oed ar neu cyn 30 Mehefin 2022 gael eu pigiad atgyfnerthu unrhyw bryd hyd at y dyddiad cau ar y dyddiad hwnnw.

Bydd pawb sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu’r gwanwyn yn cael eu gwahodd gan eu bwrdd iechyd neu eu meddyg teulu. Os ydych chi’n gymwys ond heb gael gwahoddiad, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol drwy’r ddolen hon: https://llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19 

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.