Yn ystod Wythnos Arbed Dŵr, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn apelio ar bawb yng Nghymru i fod yn ymwybodol o’u defnydd o ddŵr wrth inni agosáu at yr haf.
Mewn datganiad i’r Senedd (18 Mai 2023), cadarnhaodd y Gweinidog bod Grŵp Cyswllt Sychder Cymru – sy’n cynnwys cwmnïau dŵr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Swyddfa Dywydd a phartneriaid eraill – wedi dechrau’n swyddogol ar y broses o gynllunio o flaen llaw ar gyfer pob math o senario o ran tywydd.
Ar ôl mis Chwefror arbennig o sych eleni, cafwyd y mis Mawrth gwlypaf ers deugain mlynedd, a Chymru’n cael dwywaith cymaint o law â’r glawiad cyfartalog hirdymor. Roedd hyn yn newyddion da i gronfeydd dŵr, afonydd a chyflenwadau dŵr daear gan fod cyflenwadau oedd o dan bwysau wedi eu hail-lenwi.
Yn anffodus, meddai’r grŵp, nid yw hyn yn golygu y gall Cymru orffwys ar ei rhwyfau. Mae tywydd yn anodd ei ragweld ac mae newid hinsawdd yn golygu ein bod yn wynebu gaeafau gwlypach, hafau mwy sych, lefelau môr sy’n codi, a digwyddiadau tywydd eithafol mwy aml a mwy dwys.
Rhwng mis Mawrth a mis Medi 2022, dim ond 64% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer y cyfnod hwn welodd Cymru, sy’n golygu mai dyma’r cyfnod o saith mis sychaf mewn 150 o flynyddoedd. Rhoddodd hyn bwysau sylweddol ar seilwaith a chyflenwadau dŵr, bywyd gwyllt a chynefinoedd, a’r sector amaethyddiaeth, gan arwain at ddatganiad o sychder. Bydd blynyddoedd olynol o sychder parhaus yn gostwng gwytnwch, gan arwain at sefyllfaoedd fydd yn gynyddol waeth.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn i Gymru ystyried eu defnydd o ddŵr wrth i’r Grŵp Cyswllt Sychder baratoi ar gyfer yr haf | LLYW.CYMRU
Mae cwmnïau dŵr Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Hafren Dyfrdwy (HD), yn cynnig cyngor i gwsmeriaid ar eu gwefannau a byddant yn cynnal ymgyrchoedd i rannu cynghorion am sut i arbed dŵr.