Gallai rheolau sy’n ymwneud â gweithgareddau ar-lein yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) fod yn gymwys o’r newydd i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn y DU sy’n gweithredu yn yr AEE o 1 Ionawr 2021.
Mae’r Gyfarwyddeb e-Fasnach yn caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn yr AEE weithredu mewn unrhyw wlad yn yr AEE, gan ddilyn dim ond y rheolau perthnasol yn y wlad lle maent wedi’u sefydlu. Ni fydd y fframwaith hwn yn gymwys mwyach i ddarparwyr yn y DU gan y bydd y DU wedi gadael yr AEE.
Dylech ystyried a yw’ch gwasanaethau o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb ar hyn o bryd, ac os ydynt, sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion perthnasol ym mhob gwlad yn yr AEE rydych chi’n gweithredu ynddi.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.