Mae’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) wedi cyhoeddi briff Parodrwydd i Ymadael â’r UE ar gyfer y sector cyfleustra i helpu manwerthwyr i ystyried sut y bydd eu busnesau’n cael eu heffeithio ar ddiwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020.
Mae’r Briff Parodrwydd i Ymadael â’r UE yn cynnwys tair elfen graidd i fanwerthwyr cyfleustra eu hystyried:
- yr amgylchedd masnachu
- y gweithlu a’r bobl
- rheoliadau
Mae’r briff hefyd yn darparu gwybodaeth ar Senarios Achos Gwaethaf Rhesymol Llywodraeth y DU ar gyfer oedi wrth y ffin, cyfnodau gwerthu trwodd cynhyrchion penodol a’r newidiadau disgwyliedig i labelu nwyddau a fydd yn cael eu gwerthu yn y sector.
Mae’r briff llawn ar gael yma https://bit.ly/EUexitreadinessbriefing
Ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd.