BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y newyddion diweddaraf: cyllid newydd i gefnogi newyddiaduraeth leol yng Nghymru

Heddiw (26 June 2023), cyhoeddodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, fod Llywodraeth Cymru yn darparu £200,000 er mwyn helpu i gryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru.

Mae ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ariannu mentrau hen a newydd i wella newyddiaduraeth yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â diffygion o ran gwybodaeth.

Bydd sefydliadau annibynnol yn y cyfryngau cymunedol yn elwa ar £100,000. Mae’r Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi hyd at ddeg sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu newyddion budd y cyhoedd sy'n berthnasol yn lleol ac i hyrwyddo twf yn y sector newyddion cymunedol yng Nghymru.

Mae'r grant yn cael ei hwyluso gan Ping! News CIC, cwmni buddiant cymunedol sy'n cael ei redeg gan y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) a'r datblygwr o Fryste, Omni Digital

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Y newyddion diweddaraf: cyllid newydd i gefnogi newyddiaduraeth leol yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.